|
Cyflwyno Awduron/Presenting Authors
Click the links below to read the articles
Dr Owen Thomas, Lerpwl (1812-1891)
Gwerthfawrogiad o Ysgolhaig Cymraeg
Cyfraniad enfawr Stephen Joseph Williams (1896-1992)
i ddiwylliant ac ysgolheictod Cymru
Dr Owen Thomas, Lerpwl
(1812-1891)
Er mai un o blant Caergybi,
Môn oedd Owen Thomas (yn un o deulu athrylithgar iawn) eto ni
ellir meddwl amdano heb ychwanegu ‘Lerpwl’ at ei enw. Dyna wna
ei ddau gofiannydd a phawb y gwn i amdano. Yr oedd Lerpwl ac
yntau’n annatod â’i gilydd. Yn ei arddegau cynnar daeth i
gysylltiad ag un o gymeriadau mwyaf lliwgar Lerpwl, Robert
Herbert Williams, (Corfanydd) a’i frawd John Thomas gan wŷs
Gorfanydd a thyfodd y ddau ohonynt yn areithwyr grymus dros
ddirwest pan drigai’r teulu ym Mangor. A dyna ddechrau.
Bu
Lerpwl byth oddi ar hynny ar y map. Gwahoddid Owen Thomas
yno’n gyson i gyhoeddi’r Efengyl i’r uchelwyliau ac i agor
capeli. Ym 1863 aethpwyd ati o ddifrif i’w berswadio i adael
un ddinas am un arall, i ddod o Jewis Crescent, Llundain i
Netherfield Road yn Lerpwl. Caled fu’r perswadio gan fod
Manceinion yn awyddus amdano hefyd, a’i hen athro Dr Lewis
Edwards y Bala yn awgrymu y dylai aros yn Llundain er mwyn bod
yn agos i 10 Downing Street, fel cynrychiolydd grymus i
Gyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd! Ildio i Lerpwl a wnaeth
yn y diwedd, a hynny ar ôl i un o Fethodistiaid y ddinas honno
ddweud wrtho’n garedig mewn llythyr, ‘Lerpwl sydd yn eich
ffitio chwi orau’.
Gwir y dywedodd. Fe roedd bywyd dinas yn ei ‘ffitio’. Nid oedd
ganddo brofiad o fyw a gweinidogaethu yng nghefn gwlad. Fe’i
ganwyd yn Heol y Felin, Caergybi ar 16 Rhagfyr 1812, yr hynaf
o wyth o blant i Owen a Mary Thomas. Tref yn tyfu oedd
Caergybi'r dyddiau hynny. Datblygwyd y porthladd ac adeiladwyd
yn helaeth. A phan symudodd y teulu a chartrefu ym Mangor yn
Arfon yn 1827 dyna pryd y gwelwyd cynnydd mawr ym maintioli’r
dref honno. Dywedir wrthym fod Bangor yn ferw gwyllt yn 1827
gyda’r newydd ddyfodiad yn tyrru yno. A gweinidogaethu mewn
awyrgylch trefol a wnaeth Owen Thomas fel y gwelwn. Bu ym
Mhwllheli am gyfnod byr (1844-46) ac yn y Drenewydd am bum
mlynedd cyn symud i Lundain i eglwys enwog Jewis Crescent.
Methodd y rhan fwyaf o’i gyfoeswyr ddeall yr agwedd hon i’w
gymeriad, yr angen am dref. Ond bu llawer gweinidog ar ei ôl
yr un fath yn Llundain a Lerpwl wedi’u cyfareddu’n llwyr gan y
ddinas. Roedd sawl rheswm i egluro dros afael dinas ar Owen
Thomas. Roedd cyfran dda o’i wrandawyr, fel yntau’n bobl oedd
yn ymddiddori mewn trafod dyfnion bethau’r ffydd. Ceid hyn yng
nghefn gwlad hefyd ond eithriadau oedd y rheiny. Mwy na hynny,
cai gyfle i drafod gyda’i gyd-weinidogion o enwadau eraill yn
ogystal â’i frodyr o’i enwad ei hun. Fe honnir bod y
Frawdoliaeth yn Lerpwl yr adeg hynny’n un o’r brawddiaethau
mwyaf dysgedig a welodd Ymneilltuaeth Gymraeg. Pwysig hefyd i
Owen Thomas oedd cael y cyfleusterau i brynu llyfrau a’u
benthyg o’r llyfrgelloedd. Gwelir mai llyfrau oedd yn ei flino
yn y llythyr cyntaf a ysgrifennodd at ei fam o 25 Duncan
Terrace, Islington ar 10 Ionawr 1852.
Y mae fy moxes a’m llyfrau
wedi dyfod yma o’r Drefnewydd. Ni thelais ond dwy bunt am eu
cario. Y mae gennyf amryw lyfrau a phethau eraill eto yna...
Y mae gennyf gyda mi eto dros ddeugain punt, ac y mae yn
ddyledus i mi am lyfrau a werthais yn y Drefnewydd dros
ganpunt - ond rhaid i mi brynu y rhan fwyaf o’r llyfrau
hynny eto.
Nid rhyfedd i ryw eneth o
Saesneg, pan ddaeth hi’n forwyn i dŷ Griffith Davies y
mathemategwr, lle lletyai Owen Thomas ar y cyntaf yn Llundain,
gredu mai llyfrwerthwr oedd gweinidog Jewis Crescent!
Yr un fu’r stori yn Lerpwl. Byddai’n chwilio’r siopau am y
llyfrau newydd ac yn wir, hyd y diwedd hiraethai am gael ei
dwylo ar y llyfrau diweddaraf. Sonia Griffith Ellis, gweinidog
Stanley Road, Bootle, amdano’i hun yn galw i weld Owen Thomas
yn ystod ei waeledd olaf yn 46 Catherine Street. Roedd yn
anfodlon iawn am nad oedd cyfrol Dean Church wedi cyrraedd ac
yntau wedi’i harchebu oddi wrth lyfr werthwr yn Church Street,
Lerpwl. Pan alwodd Griffith Ellis drachefn ymhen rhyw ddeng
niwrnod a phan holodd ynghylch hynt a helynt y gyfrol gwelodd
fod Owen Thomas yn hapusach ei fyd. Roedd y gyfrol wedi
cyrraedd ac yntau wedi’i darllen. ‘Ac yr ydw i yn mened i’w
darllen drosodd eto hefyd.' Does dim terfyn ar ei awch am
lyfrau a’r rheiny ar bynciau amrywiol fel hanes yr Eglwys,
Protestaniaeth, diwinyddiaeth, esboniadaeth ac wrth gwrs,
llenyddiaeth. Roedd yn amlwg fod ganddo’r adnoddau i wario’n
helaeth ar ei lyfrgell.
Yn Lerpwl, fel yn Llundain, manteisiodd ar y cyfle mawr a
gafodd i wrando ar ddoniau eraill, hwyrach er mwyn perffeithio
ar ei ddawn ei hun fel pregethwr. Yn ystod cyfnod Jewin bu’n
wrandäwr cyson ar Thomas Binney, gweinidog gyda’r Annibynwyr
Saesneg, ar James Hamilton ac ar Henry Melvill. Fel hyn y
soniodd am bregethau Henry Melvill,
Rhaid fod ei bregethau yn
costio iddo lafur dirfawr:
Y maent i gyd yn elaborate anghyffredin.
Ac fe dystiodd ei gyfoeswyr
ei hun i Owen Thomas berffeithio’i ddawn ei hun.
Ni ellir tynnu’r gorau allan o bregethwr heb gynulleidfa,
medden nhw. Yn wir, cafodd Owen Thomas y fraint o fod yn
perthyn i oes aur y cynulleidfaoedd. Yn ôl yr ystadegau, yn
ystod ei gyfnod yn Eglwys Princes Road, Lerpwl rhwng 1871 a
1891 y gwelwyd y gynulleidfa fwyaf ei rhif yn holl hanes
crefydd a phregethu Cymru. Roedd un fil un cant ar ddeg o
aelodau’n perthyn i’r eglwys honno. Yn eu plith gwelwyd y
gorau o ddau fyd, hen ŷd y wlad ymhell o gartref a’r Cymry a
oedd wedi’u magu ar y Glannau. Mae’n siŵr fod hyn asiad
diddorol i Owen Thomas.
Yn Lerpwl y cyrhaeddodd ei anterth. Yn ystod y cyfnod hwn yr
enillodd y teitl ei fod yn Bregethwr y Bobl. Mae’n anodd iawn
inni heddiw yn 2010 ddirnad cyfrinach ei lwyddiant. Gallwn
ddarllen ei bregethau, ond eto i gyd mae gwahaniaeth rhwng
darllen pregeth a’i chlywed hi’n cael ei thraddodi gan ŵr o
ddawn ymadrodd Owen Thomas. Cyfaddefodd Iolo Caernarfon ei fod
yn ymwybodol o’r fath anhawster ac eto roedd ef yn ei gofio’n
pregethu. Ond yn ei gofiant i Owen Thomas mae Iolo Caernarfon
yn egluro mai rhan o gyfrinach ei lwyddiant ei fod yn teimlo
pan wrandawai arno nad oedd hi’n ‘bosibl byth ddywedyd y peth
yn well’. Dyna ganmoliaeth yn wir iddo.
Fel ‘pregethwr y bobl’ gwnaeth ei orau i adnabod ac i ddeall
ei gynulleidfa gymysg. Yn eu plith gwelwyd rhai o gyfoethogion
mawr y ddinas, ‘nifer luosog o ieuenctid’ yn ôl tystiolaeth
llygad-dyst ym 1883, y gweithwyr cyffredin a’r merched a
ddaeth i weini, a ‘phobl yr ymylon’ a eisteddai yng ngaleri’r
pechaduriaid fel y’i gwelwid. I bob un ohonynt, cyfoethog a
thlawd, pregethodd Owen Thomas yn argyhoeddedig mai Iesu Grist
oedd gobaith mawr dynolryw. Daeth i adnabod eu Gwaredwr,
Crist wedi ei wneuthur i
ni gan Dduw yn ddoethineb, yn gyfiawnder, yn santeiddrwydd,
yn brynedigaeth; Crist yn bob peth, ac ym mhopeth.
Os oedd pregethu’n bwysig
iawn iddo, felly hefyd roedd bugeilio. Gofalai am ei ‘bobl’,
yn arbennig y llesg, y galarus a’r tlodion. Bu’n gefnogol iawn
i waith cymdeithasol yr eglwys, yn arbennig i weithgareddau
Cymdeithas Dilladu Capel Princes Road a sefydlwyd yn 1876.
Trefnodd gyfarfodydd darllen ar gyfer y bobol ieuainc oedd yn
gweini yn y tai crand yn Devonshire Road ac yn Catherine
Street lle roedd ef ei hun yn byw.
Nid pregethwr yn unig mohono, oherwydd profodd ei hun fel
ysgolhaig ac fel llenor. Ysgrifennodd ddau gofiant nodedig,
Cofiant John Jones, Talsarn a Chofiant Henry Rees, yn ogystal
â llu o erthyglau ac adolygiadau, heb anghofio’r olygyddiaeth
o’r Traethodydd am gyfnod. Fe ddeil Cofiant John Jones Talsarn
i ryfeddu’r beirniaid llenyddol a phwy bynnag a’i ddarlleno.
Dewisodd wrthrychau diddorol i’w hastudio ac yn Cofiant John
Jones fel geir rhai o’r darnau disgrifiadol godidocaf yn y
Cofiant Cymraeg. Fel cofiannydd roedd gan Owen Thomas y ddawn
i droi popeth a gyffyrddai yn ddiddorol ac yn raenus. Er hynny,
mewn ysgrif fel hon, cam gwag fyddai anghofio bod gan Owen
Thomas ei ffaeleddau hefyd fel llenor. Weithiau fe fedrai fod
yn rhodresgar ac yn chwyddedig ei arddull ac fel y sylwyd, fe
adawodd allan rai ffeithiau y dylai eu croniclo. Ond mae’n
hawdd iawn inni heddiw feirniadu fel hyn gyda’n hastudiaeth
gymdeithasegol oleuedig! Fe ddeil yn ffaith na lwyddodd neb yn
llenyddiaeth Gymraeg i wella ar y meistr. Efallai fod ei ŵyr,
Saunders Lewis yn iawn i ddweud fod cyfnod arbennig y Cofiant
Cymraeg wedi dod i ben yn 1874 gyda’r campwaith, Cofiant John
Jones gyda’i phedair mil a deugain ac un o dudalennau.
Rhyfedd meddwl er hynny, bod cymaint o olion Saesneg oes
Fictoria ar ei waith llenyddol gorau ac yntau mor bleidiol i’r
iaith Gymraeg. Ysgogodd ei eglwys yn Lerpwl i roi pob
cefnogaeth i’w ymdrechion a wnaed o blaid diogelu’r iaith
Gymraeg. Siaradodd yn huawdl ar y mater ar lawr y Sasiwn a’r
Gymanfa Gyffredinol a phan groesodd gleddyfau ag Emrys ap Iwan
ni allai neb amau Cymreictod y cawr o Lerpwl. Bu Owen Thomas
yn Gymro alltud am ddeugain mlynedd. Ai hyn oedd yn gyfrifol
am ei arddull Seisnigaidd i goffau John Jones, pregethwr
uniaith Gymraeg? Ai Lewis Edwards oedd â’r allwedd i
ddatgloi’r dirgelwch pan ddywed ‘Ni fu neb erioed yn fwy
Seisnigaidd na John Elias?’ Fe ddylanwadwyd ar Owen Thomas gan
John Elias a dyma union fai Owen Thomas fel llenor. Er hynny,
roedd yn hynod o gynhyrchiol fel llenor. Ysgrifennodd yn
helaeth i’r Drysorfa, i’r Traethodydd, a cheir cyfraniadau
ganddo yn y Llenor, Cronicl yr Ysgol Sabbothol, Baner ac
Amserau Cymru, y Goleuad, y Gwyddoniadur Cymraeg, heblaw ei
esboniadaeth ar y Galatiaid, yr Effesiaid, y Philippiaid,
rhannau o’r Colosiaid a’r Thesaloniaid, y Cornithiaid a’r
ymdriniaeth fanwl ar yr Epistol at yr Hebreaid. Hwn oedd ei
gampwaith, yr Epistol at yr Hebreaid, ym maes esboniadaeth
Feiblaidd.
Beth oedd ei gyfrinach? Sut y llwyddodd Owen Thomas i gyflawni
hyn i gyd? Gwaith gofalus oedd casglu’r deunydd a llafur
enfawr oedd rhoi trefn ar ei nodiadau a’i ymchwil, ac ar yr un
pryd crwydrodd y wlad i gyhoeddi’r Efengyl. Mae’n rhaid bod
sawl rheswm i egluro’i lwyddiant fel llenor, fel pregethwr ac
fel cyfathrebwr.
Gallwn ddechrau gyda’i fagwraeth yn niwylliant y Beibl ar yr
aelwyd yn nyddiau cynnar ei fywyd. O ran gallu, dawn, a
duwioldeb, roedd ei dad yn werinwr tu hwnt i’w gyfoeswyr. Bu’r
fam yr un mor benderfynol o drosglwyddo diwylliant y Diwygiad
Methodistaidd i’w theulu. Llwyddodd i gadw’r addoliad
teuluaidd ar yr aelwyd ac yn ôl un disgrifiad, dysgodd ei rhai
bach i ddarllen y Gair a’i drysori ar eu cof. Gymaint oedd y
dylanwad hwn arno yn ei blentyndod roedd hi’n ffaith mai ei
hoff waith oedd dysgu ac adrodd penodau o’r Beibl, Felly,
gallai adrodd y Testament Newydd i gyd, y cyfan o Lyfr Job, y
Salmau, Eseia, Daniel, Hosea, Joel, Meica a Sechareia. Fe
ddysgodd Epistol Iago bob gair un noson pan oedd ei rieni yng
nghapel Hyfrydle, Caergybi. Gwelwn fel yr oedd profiadau a
dylanwadau cyfnod ei dyfiant wedi profi’n gynhaliaeth iddo
weddill ei oes.
Roedd y seiliau’n sicr iddo fel myfyriwr. Gyda’i alluoedd
meddylion ac ysbrydol, drachtiai wybodaeth o bob ffynnon.
Cafodd bob cefnogaeth gan y Dr Lewis Edwards yng ngholeg y
Bala. Fe’i alwodd yn ‘athraw perffaith’ ac fe fu cyfeillgarwch
agos rhyngddynt ym myd y meddwl a’r deall. Wedyn aeth Owen
Thomas i brifysgol Caeredin lle bu’n astudio wrth draed Syr
William Hamilton, gŵr a fu’n ddylanwad mawr arno fel ag y bu
Thomas Chalmers, athro Diwinyddiaeth a Hebraeg. Agorodd y
rhain ei feddwl i ddiwinyddiaeth gwledydd Ewrop, yn arbennig
yr Almaen, a’i osod ar lwybr yr ysgolheictod a fu’n gymaint
rhan o’i fywyd.
Felly, portread o ŵr cydwybodol, cwbl ymroddedig i’w waith
sydd gennym. Clywn amdano’n dechrau ar ei waith bob dydd am
saith bob bore. Roedd ei lyfrgell yn seintwar iddo a doedd dim
i ddod i’w rwystro rhag ei dasg. Pe byddai rhywun yn galw’n
ddirybudd byddai’n dal i ysgrifennu wrth ei ddesg yn ogystal â
sgwrsio. Credai y dylai gweinidog ddangos esiampl i weddill y
gymdeithas mewn diwydrwydd a gwaith ac fe’i edmygwyd ef am hyn
gan bawb yn ddiwahân.
Ond mae rhan o’r gyfrinach a’r clod yn perthyn i’w chwaer
ieuengaf, Sarah, oherwydd y gefnogaeth a gafodd ganddi. Ar ôl
marwolaeth ei wraig, daeth ei chwaer Sarah o Fangor ym 1867 i
gadw’r cartref iddo. Bu hyn yn fantais fawr i’w waith
cyhoeddus. Gofalai Sarah ei fod yn cael pob rhyddid i lenydda
pan fyddai adref ac i grwydro Cymru benbaladr fel un o sipsiwn
Crist.
Ar ei grwydriadau a’i deithiau mynych daeth pobl i’w adnabod
fel gŵr yn meddu ar lawer o rinweddau. Perthynai caredigrwydd
mawr iddo ac yr oedd wrth ei fodd yn hybu dynion ieuainc oedd
yn cychwyn i’r Weinidogaeth. Yn Lerpwl, cefnogodd waith y
cenhadon a lafuriai ymhlith y tlodion yno. Fel un a wybu dlodi
ei hun yn ystod ei gyfnod cynnar, ni anghofiodd drybini’r
Cymry tlawd. Bu farw ei gariad Bathseba Rowlands ar ddiwedd ei
gyfnod yn y Drenewydd. Roed dy ddau wedi trefnu priodi ac fe’i
hysigwyd gan y profiad. Ar 19 Hydref 1850 ysgrifennodd at ei
fam:
Fy annwyl Fam, gweddïwch
drosof. Ni chefais gymaint profedigaeth erioed. Yr wyf yn
cael fy hun yn weddw cyn bod yn briod. Ymddengys y byd i mi
ar ryw gyfrif yn hanner gwag hebddi hi.
Collodd ei briod, Ellen,
ychydig wythnosau ar ôl geni merch fechan. Diwrnod du oedd Sul
24 Mawrth 1867, pan fu fawr Ellen yn 35 oed a gadael pump o
blant. Cawn ddisgrifiad trist iawn o Owen Thomas mewn cyfarfod
plant, gan ei gyfaill Eleazar Roberts,
Yr wyf yn ei weled, y
funud yma, pan oedd y plant yn canu rhyw gân fechan o
gwynfan plant amddifaid ar ôl claddu eu mam, yn wylo dagrau
hidl, nes creu cydymdeimlad dwfn ym mynwesau y rhai bychain
wrth gofio am blant y Cadeirydd oedd mewn amgylchiadau
cyffelyb.
Yn ôl Eleazar Roberts, y
tynerwch a’i nodweddai a’i gwnaeth yn ‘gysurwr cynhaliol’ mor
anghyffredin yn awr y brofedigaeth i bob glyn cysgod galar.
Gwelodd lawer o afiechyd ar ei aelwyd ei hun a phrofedigaethau
echrydus. Bu carw ei eneth fechan yn niwedd 1869 a bu farw ei
fab John Owen yn dair ar ddeg oed ym Mehefin 1879.
Gŵr hynod o boblogaidd oedd Owen Thomas. Meddai ar
bersonoliaeth hardd, cof gafaelgar, a chorff lluniaidd. Mae’r
portread olew ohono’n dyst o olwg urddasol, batriarchaidd.
Byddai pobl yn hoffi’i wahodd ar eu haelwydydd, yn arbennig y
cyfoethogion o’r dosbarth canol. Cartref felly oedd cartref yr
heddychwr George M Ll Davies a’r bardd J Glyn Davies yn
Belvidere Road. Âi Owen Thomas yno’n aml am ginio a the ar y
Sul. Ef fyddai’n llywio’r sgwrs a melys oedd sôn am yr hen
ddyddiau yng nghwmni’r blaenor John Davies a’i briod Gwen (merch
John Jones, Talsarn). Mae gan yr Athro J Glyn Davies
ddisgrifiad o Owen Thomas fel gŵr ‘sunny and serene’.
Dyma, efallai, un o wendidau Owen Thomas, yn ei flynyddoedd
diwethaf. Tyfodd yn dipyn o uchel fonheddwr. Mynnai deithio yn
y dosbarth cyntaf ar y trên ac ofnai na châi lety cysurus yng
nghymoedd Morgannwg ymhlith y dosbarth gweithfaol yno. Ond
fe’i harbedwyd a chafodd groeso tywysogaidd gan un o
berchnogion y glofeydd, Thomas Joseph, Tŷ Draw, Treherbert.
Does dim rhyfedd ei fod yn canmol teuluoedd y byddygions;
teulu Treborth, ger Bangor, teulu Bryngwenallt, Abergele, a
theulu Gwaelod-y-Garth Merthyr Tydfil. Ym moethusrwydd
cartrefi’r cyfoethogion hyn, rhoddwyd iddo gyfle i ymlacio. Yn
wir, roedd angen rhyw gysur ar ŵr a’i yrrai ei hun yn ddiarbed.
Oherwydd drwy gydol y blynyddoedd doedd dim pall ar ei
weithgarwch dros bobl ei eglwys, ei Gyfundeb a thros
lenyddiaeth ei wlad. Roedd pawb yn cydnabod hyn.
Heddiw, fe erys y dystiolaeth i hyn i gyd mewn anerchiad
disgrifiadol a gyflwynwyd i’r Dr Owen Thomas ym mis Mai 1888
ynghyd a thysteb am bedwar cant ar ddeg o bunnoedd fel arwydd
o werthfawrogiad cenedl y Cymry ac yn enwedig Cyfundeb y
Methodistiaid Calfinaidd, am ei wasanaeth am fwy na hanner can
mlynedd. Rhyw ddeg mlynedd ar hugain yn ôl digwyddodd hen
ffrind inni oedd yn byw o fewn y filltir sgwâr i Princes Road,
gyfeirio at yr anerchiad disgrifiadol arbennig hwn. Trwy ryw
ryfedd hynt, roedd yr anerchiad wedi dod i’w meddiant fel
teulu ac fe’i cyflwynodd fel anrheg i’n cartref. Y fath drysor.
Mae’r dysteb a’r anerchiad yn cydnabod fod Owen Thomas, drwy
ei ysgrifeniadau, wedi bod yn llwyddiannus i ‘gynhyrchu a
meithrin yn y Genedl Gymreig hoffter at ddarllen a chymerasoch
ran bwysig yn nygiad i mewn cyfnod newydd yn hanes ein
llenyddiaeth.
Ym 1888 teimlent fod yn
rhaid cymeradwyo a gwerthfawrogi un a oedd,
ers hanner can mlynedd wedi sefyll yn gyson yn y lleoliad
pwysig yn uchelwyliau y Methodistiaid ac wedi cymeryd rhan
fel arweinydd yn holl symudiadau y Cyfundeb am dymor
meithach nag a ganiatawyd ond i ychydig o weinidogion. Ac
anrhydeddwyd chwi gan Dduw trwy eich gwneuthur yn offeryn i
droi llawer at gyfiawnder.
Yn oes y rhyngrwyd cawn ni
ein dau gyfle i gadw'r cof amdano yn fyw am gyfnod pellach.
Meinwen a D Ben Rees
Click here to return to the
list
Gwerthfawrogiad o Ysgolhaig Cymraeg
Cyfraniad enfawr Stephen Joseph Williams (1896-1992)
i ddiwylliant ac ysgolheictod Cymru
Ar ôl cyrraedd Coleg y
Brifysgol yn Aberystwyth deuthum i wybod am yr Athro Stephen J
Williams gan fod ei ferch Annest yn gyd-fyfyriwr a mi, ac mewn
blynyddoedd yn ddiweddarach deuthum i adnabod yn dda'r mab
hynaf, Dr Aled Rhys Wiliam ar Bwyllgor Golygyddol y cyhoeddiad
blynyddol, Yr Arolwg a gweithgarwch y wasg a
gychwynnais yn Abercynon, Cyhoeddiadau Modern Cymreig Cyf.[1]
Dyna’r adeg y deuthum i berthynas a mab arall dawnus, brawd i
Aled ac Annest, sef y Dr Urien Wiliam, a gyfrannodd mor
helaeth i’n rhyddiaith.[2]
Bu’r cysylltiadau hyn yn hynod o bwysig nid yn unig i mi yn
bersonol ond i gynifer o bobl eraill a ddaeth i edmygu’r tad
yn rhinwedd adnabyddiaeth o’r plant.
Ganed Stephen Joseph Williams yn nhyddyn
Blaen-y-gors rhwng Ystradgynlais a Chreunant ar 11 Chwefror
1986 yn wythfed o naw plentyn i Rhys Williams a’i briod Ann.
Cafodd ei addysg elfennol yn Ysgol Ynysgedwyn ac wedyn yn
Ysgol Uwchradd Maesydderwen, Ystradgynlais. O Ysgol
Maesydderwen, enillodd ysgoloriaeth i Goleg Prifysgol
Deheubarth Cymru, Caerdydd, yn 1914, ond ar ôl ei flwyddyn
gyntaf yno bu’n rhaid iddo ohirio gweddill ei gwrs er mwyn
gwasanaethu fel milwr yn y rhyfel waedlyn a adnabyddir ar
dudalennau llyfrau hanes fel y ‘Rhyfel Byd Cyntaf’. Bu am
bedair blynedd yn uned filwrol II Gurta Rifles gan dreulio y
rhan helaethaf o’r amser yng ngogledd is-gyfandir yr India.
Bu cannoedd o’i gyd-filwyr farw ar y ffordd yn ôl i Brydain
ond arbedwyd ef. Wedi dychwelyd o’r India aeth yn ôl i Goleg
Caerdydd er mwyn cwblhau ei gwrs gradd yn y Gymraeg yn yr
Adran lle y ceid Gamaliel y Genedl, yr Athro W J Gruffydd.[3]
Meddyliai’r byd o’i Athro fel y cawn ganfod yn ei ysgrif
werthfawr yn y rhifyn coffa o’r cylchgrawn Y Llenor yn
1955.[4]
Graddiodd yn gyda Dosbarth Cyntaf yn y Gymraeg
yn y flwyddyn 1921.[5]
Rhoddodd ei fryd ar
gyfrannu addysg a hynny ar y dechrau fel athro ysgol mewn dwy
dref oedd yn Gymreigaidd, a’r wlad o amgylch yn gymreiciach
fyth, sef Aberaeron ger bae Ceredigion a Llandeilo yng nghanol
Dyffryn Tywi. Yno y cyfarfu Ceinwen Rhys Rowlands a ddaeth yn
ddiweddarach yn wraig gefnogol iddo. Ar awgrym yr Athro Henry
Lewis aeth ati yn ei oriau hamdden i gyflawni’r gamp o astudio
a golygu’r testun canoloesol, Ffordd y Brawd Odrig ar gyfer
traethawd MA Prifysgol Cymru. Llwyddodd yn ei dasg a
chyhoeddwyd y testun yn 1929 gyda thalfyriad o’r deunydd
traethodol, ac atodiad yn cyflwyno’r testun Lladin, sef
Itinerarium Odorieuc o Pordenone.[6]
Haedda Odrig ei
gofio gan ei fod yn deithiwr o’r iawn ryw. Agorodd borth
megis i ryfeddodau’r Dwyrain gan roddi sylw haeddiannol i
Ymerodraeth Catai a ddaeth i’w galw mewn cyfnod diweddarach yn
Seina. Gofalodd offeiriad o Gymro, Dafydd Fychan o Forgannwg
gyfieithu gwaith y Brawd Odrig i’r Gymraeg rywdro yn y
bymthegfed ganrif, ac yn yr ugeinfed ganrif i’r athro ifanc
lwyddo i’w olygu ar gyfer oes mor wahanol. Yn y cyfnod hwn y
priododd gyda Miss Ceinwen Rhys Rowlands a fu’n gefn mawr iddo
yn ei holl weithgarwch yn lleol yn ninas Abertawe ac ar lwyfan
y genedl.[7]
Penodwyd ef yn
Ddarlithydd yn Adran Gymraeg, y Coleg Prifysgol newydd, a
sefydlasid ym Mharc Singleton yn 1920, a hynny yn 1927. Daeth
yn gydweithiwr â’r Athro Henry Lewis, un arall a fagwyd yng
Nghwm Tawe, ynghyd â’r Athrylithgar Saunders Lewis, mab
gweinidog y Methodistiaid Calfinaidd, Lodwig Lewis, a
weinidogaethai ar gyrion y dref.[8]
Yn 1930 cafwyd mwy
o gynnyrch buddiol a phwysig, i astudio testunau’r trosiadau
Cymraeg o’r gwrhydri a gysylltir bob amser gyda Siarlymaen a’i
ŵyr, y straeon a gynhwysir yn y llenyddiaeth a elwir yn
Ystorya de Carlo Magno. Wel trwy’r pererinion a deithiau
drwy ddŵr a thân i ogoneddu Duw yn y cysegrfan a elwir Sant
Iago yn nhref hyfryd Copostilla yng ngwlad Sbaen.
Ysgrifennwyd yn Lladin chwedl enwog am Siarlymaen yn gwaredu
Sbaen rhag trais a gormes y Saraseniaid a thrwy hyn yn achub
beddrod Sant Iago. Maentumir fod y stori wedi eu hadrodd ar
bapur gan Archesgob Rheims yn amser yr anfarwol Siarlymaen,
sef Turpin. Mewn geiriau eraill dyma'r hyn a nodir bellach
fel Turpini Historia, a gafodd ei throsi yn gelfydd i’n hiaith
gan Fadog ap Selyf, Cronicl Turpin, mae’n debyg rywdro
cyn i Gymru golli ei Meseia, Llywelyn ein Llyw Olaf. Erbyn y
flwyddyn 1336 yr oedd tri gwaith arall wedi cael eu cyfieithu,
ond y tro hwn o’r Ffrangeg, sef Cân Rolant, Rhamant Otfel a
Pererindod Siarlymaen. Sonia’r gân gyntaf am ddewrder Rolant
a’i gyfaill Olifer a thrychineb Glyn y Mieri sef Rwnsyfail.
Yn yr ail gân cyflwynir yn gampus holl rinweddau'r Sarasin
Otfel a’i dröedigaeth i fod yn ŵr di-ail dros Fab yr
Arglwyddes Fair. Yna yn y drydedd gân heb ddychan na
gweniaith cawn ddilyn teithiau Siarlymaen i ddinas Caersalem
ac oddi yno i Gaergystennin. Gofalodd Stephen J Williams fel
Golygydd gyflwyno’r caneuon hyn a’u hesbonio yng ngoleuni
gwybodaeth ddiweddaraf. Dyna pam na chytunodd bob cam o’r
ffordd gydag arbenigwr arall o Gymro, yr Athro Morgan Watkin.[9]
Ond yn ei nodiadau cydnabu yn llawn bob cymorth a ddaeth iddo
yn ei olygyddiaeth o ysgolheictod ei ragflaenwyr yn y maes.
Ond
fel y soniodd nifer o feirniaid ac ysgolheictod Cymraeg, yn
arbennig J Saunders Lewis a Pennar Davies, y mae’n rhaid cofio
bob amser na allwn ddeall ein hanes na’n llenyddiaeth heb y
pwyslais ar ddiwylliant Ewrop.[10]
Y mae gennym ddyled i’r byd Celtaidd, i lenyddiaeth Saesneg,
ond na foed i ni anwybyddu na dilorni ein gwreiddiau ar
gyfandir Ewrop, yn y Croniclau ac yn y profiadau a gafodd
alltudion dysgedig o Gymru yn yr Almaen, y Swistir, yr Eidal
a’r Iseldiroedd yn bennaf. Ac erbyn y Diwygiad Protestannaidd
y mae’r gorwelion yn lledu yn enfawr.[11]
Yn y dasg o’n dysgu i werthfawrogi'r holl gyfoeth, o ran dysg
a diwylliant. Y mae gan Stephen J Williams ei le unigryw.
Dangosodd ef yn eglur fod Cymru wedi cyfrannu i Ewrop fel ag y
derbyniodd yn helaeth o ddysg llenorion a chrefft beirdd y
cyfandir. Dangosodd Stephen J Williams fod Cymry yn yr
Oesoedd Canol yn medru gwerthfawrogi llyfrau poblogaidd y
cyfandir a gafodd eu trosi i Gymraeg pwysig a hynod o gadarn.
Ceid
traethodau yn yr Oesoedd Canol ar lu o bynciau, a bu’r Cymry
yn darllen Traethawd Gwallter o Henlai ar Hwsmonaeth yn
Gymraeg, gwaith arall yn y Ffrangeg a welodd olau dydd yn y
drydedd ganrif ar ddeg. Cyflawnodd Stephen J Williams waith
golygyddol pwysig ar y trosiad, gan greu dolen arall gyda’r
byd Ewropeaidd.[12]
Diddordeb a
gynyddodd yn y tri degau oedd ei ymroddiad i drafod yr hen
Gyfreithiau Cymraeg. Dechreuodd ar y dasg yn 1936. Sylwodd
ar ysgrif dreiddgar ar Gyfreithiau Hywel Dda gan Gymrawd Coleg
y Drindod, Caergrawnt a gwahoddodd ef i gydweithio ag ef.
Daeth J Enoch Powell yn hynod o adnabyddus yn ddiweddarach fel
gwleidydd yn y Blaid Dorïaidd ac fel un a wrthryfelodd o fewn
y blaid honno ar fater polisi mewnfudiad. Cydlafuriodd
Stephen J Williams gyda J Enoch Powell ar y dasg. Daeth yr
Ail Ryfel Byd i dorri ar y bartneriaeth ysgolheigaidd.
Ymddangosodd eu llafur yn y gyfrol Cyfreithiau Hywell Dda
yn ôl Llyfr Blegywryd (Dull Dyfed) a gyhoeddwyd ym 1942.[13]
Ond rhaid cydnabod mai Stephen J Williams a ysgwyddodd pen
trymha’r baich, ef a gwblhaodd y gwaith a’i baratoi i’w wasg a
gofalu am y proflenni. Gwaith blinderus a gofalus fel y
gwyddom. Tanlinellodd ef yn y Rhagair rinweddau ysgolheictod
J Enoch Powell yn y gamp o ddwyn allan y golygiad modern
cyntaf o destun cyfraith Cymraeg sef Cyfraith Hywel.
Ond
adeiladu gwnaeth Stephen J Williams a J Enoch Powell ar waith
arloesol Aneurin Owen (1792-1856), mab yr anfarwol William
Owen Pughe a gafodd ei felltithio mor ddidrugaredd gan
haneswyr ein llên. Gweithiodd Aneurin Owen yn galed o 1830
hyd 1840 ar Gyfraith Hywell Dda ac ymddangosodd ei argraffiad
o’r Cyfreithiau yn dwyn y teitl Ancient Laws and Institutes
of Wales yn 1841.[14]
Ceir eglurhad gwych iawn ar gyfraniad Aneurin Owen yn
Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (ail argraffiad, 1997) yn y
paragraff hwn:
Aneurin Owen oedd y cyntaf i
dynnu sylw at fodolaeth y dosbarthu hyn (er bod ei ddosraniad
yn rhannol ddyledus i waith William Maurice). Galwodd Owen
hwy yn “ddull Gwynedd”, “dull Dyfed”, a “dull Gwent” gan
feddwl eu bod yn cynrychioli amrywiadau daearyddol ar Gyfraith
Hywel.[15]
Ond dywed y cofnod fod newid
wedi digwydd a’n bod bellach yn cyfeirio atynt yn ôl enwau’r
cyfreithwyr a grybwyllir ynddynt sef Iorwerth (“dull
Gwynedd”), Cyfnerth (“dull Gwent”) a Blegywryd (“dull Dyfed”)
yn hytrach na meddwl amdanynt fel awduron ‘the Venedotian
Code’ (“dull Gwynedd”), ‘the Gwentiant Code’ (“dull
Gwent”) a ‘the Dimetian Code’ (“dull Dyfed”).[16]
A daeth Cyfreithiau
Hywel Dda i ganol llwyfan ysgolheictod Cymraeg, ar ôl
ymddangosiad Detholion o’r Hen Gyfreithiau Cymreig mewn
Cymraeg Diweddar yn 1938 o dan ofal Stephen J Williams ac
yna Llyfr Blegywryd bedair blynedd yn ddiweddarach. Bu
nifer o ŵyr ieuanc galluog yn ymgodymu â’r maes hwn yn y
pedwar degau fel Gwilym Prys Davies a mab Stephen J Williams
ei hun Aled Rhys Wiliam. Gwelir ffrwyth yr ymchwil hwnnw yn
ei gyfrol Llyfr Iorwerth.[17]
Cyflwynodd Prifysgol Cymru Wobr Hywel Dda am ei orchest ar
Gyfraith Hywel yn 1942 a gradd Anrhydedd DLitt yn 1948.
Fel
yna enillai ei fara beunyddiol ar bwys y Gymraeg, naturiol
iddo oedd cefnogi ar bob achlysur fudiadau ac unigolion a
weithiai o blaid, parhad yr iaith. Seiniodd ef nodyn
proffwydol mewn Darlith i Gymdeithas y cymrodorion ym mro ei
febyd yn 1942 o dan y testun Y Gymraeg a’r Dyfodol.[18]
Gosododd un o’i edmygwyr pennaf, Dr Brynley F Roberts
bwysigrwydd yr anerchiad yn y frawddeg hon:
Edrychodd ym myw’r anawsterau a
fygythiai les yr iaith ac ni chelodd ei siom wrth ganfod
dirywiad, ond mynegodd yn groyw mai gobaith y Gymraeg y pryd
hynny fel erioed oedd ymgymhwyso o hyd ar gyfer anghenion a
dibenion newydd.[19]
Daeth yn arloesydd y safbwynt
pwysig fod yna rheidrwydd ar yr iaith i addasu i ofynion oes
fwy cymhleth nag oes Ceiriog a Robert ap Gwilym Ddu. Rhaid
bathu termau newydd ar gyfer byd technoleg a thrafnidiaeth,
byd busnes a byd y cyfryngau newydd, byd meddygaeth a
gwyddoniaeth. Bu’n hynod o lwyddiannus yn y dasg o fathu
geiriau newydd ym myd chwaraeon, pêl-droed a rygbi. Gwyddai
fod Ymneilltuaeth Gymraeg ers y Diwygiad Methodistaidd yn y
ddeunawfed ganrif wedi llwyddo i greu geirfa dechnegol i
ddiwinyddiaeth, geirfa oedd ar dafod leferydd llu o’i
gyfoedion yn y capeli Cymraeg. Wedi’r cyfan cynnyrch Capel
Sardis, Ystradgynlais ydoedd ac ar ôl symud i Abertawe daeth
yn un o fynychwyr selog Capel Henrietta Street, Abertawe.
Cydnabuwyd yr ymroddiad i enwad yr Annibynwyr Cymraeg pan
gafodd ei wahodd i Gadair Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn
1969. Dyma’r anrhydedd pennaf y gallai’r enwad ei gyflwyno
iddo a thraddododd, yn ôl yr arferiad anerchiad o’r Gadair.
Dewisodd fel testun ‘Crefydd a’r Gymraeg’ gan ddangos yn eglur
ddigon fel y bu’r naill yn fendith i’r llall yn hanes cenedl y
Cymry.[20]
Y Gymraeg oedd y trysor a gafodd ei warchod pan oedd pob
mudiad arall yn ei anghofio, gan y capeli Ymneilltuol yn
bennaf, er na ddylid anghofio yn gyfan gwbl gyfraniad yr ‘hen
Bersoniaid Llengar’ a’r Hen Fam. Fel aelod, ar ran yr
Annibynwyr Cymraeg, o’r gweithgar a fu’n trafod y berthynas
rhwng crefydd ag iaith, cyhoeddwyd yn 1969 lyfryn hynod o
bwysig, Gwerth Cristnogol yr Iaith Gymraeg.[21]
Ni ellir anwybyddi gyfraniad y llyfrau hyn yn y dadeni na
chwaith mewnbwn yr ysgolhaig i barhad yr iaith o ddarlith
Saunders Lewis i’r Ddeddf Iaith 2010.[22]
Llafuriodd
Stephen J Williams i gadw’r iaith ar gynfas cymoedd Morgannwg
a Gwent lle yr oedd y di-gymraeg mor niferus, eu hacen mor
Gymreig â’i Saesneg yn bradychu mai Cymry oedd eu hynafiaid.
Mewn cydweithrediad â chwmni blaengar o argraffwyr o
Donypandy, Evans a Short, cyhoeddwyd yr argraffiad cyntaf o
Beginner’s Welsh yn 1934.[23]
Daeth yr ail argraffiad diwygiedig yn 1936 a’r trydydd
argraffiad yn 1959.[24]
Cofiaf bennaeth y cwmni yn dweud wrthyf yn 1963 am y
gwerthiant anhygoel a fu ar y gyfres hon. Bu’r gyfres yn
fendithiol i filoedd o ddysgwyr. Felly hefyd i eraill ohonom
oedd am loywi'r iaith, gwerthfawr oedd gweld cyhoeddi’r gyfrol
Elfennau Gramadeg Cymraeg yn 1959 a’r fersiwn Saesneg,
A Welsh Grammar yn 1980.[25]
Pan aeth H Meurig Evans a W O Thomas ati i baratoi ar gyfer
Gwasg Gomer a Gwasg y Dryw, Y Geiriadur Mawr yn 1958.
Yn 1958 derbyniodd y Dr Stephen J Williams y cyfrifoldeb fel
Golygydd Ymgynghorol y Geiriadur.[26]
Bu gwerthiant aruthrol ar Y Geiriadur Mawr o 1958 hyd
farwolaeth yr ysgolhaig yn 1992; cafwyd deunaw argraffiad o
dan ei olygyddiaeth ymgynghorol.[27]
Adnabyddir y Dr
Stephen J Williams fel Arloesydd pennaf yr hyn a elwir yn
Gymraeg Byw.[28]
Wedi’r cyfan ef oedd Cadeirydd y Panel a ddaeth i fodolaeth i
bontio’r bwlch ‘rhwng yr iaith lenyddol a’r iaith lafar’. O
dan ei arweiniad doeth a chraff, cyflwynwyd i’r ysgolion
cynradd ac uwchradd iaith lafar safonol, ac er bod aml un yn
feirniadol dros ben o’r hyn a ddarparwyd, gellir dadlau ar
sail ddigonol fod Cymraeg Byw wedi gafael mewn cyfran dda o’r
plant a fu yn yr ysgolion hyn o’r saithdegau ymlaen.[29]
Rhaid crybwyll
cyfraniad pwysig y Dr Stephen J Williams fel cyfieithydd yn
nhraddodiad Syr T H Parry Williams. Cyfieithodd lyfr pwysig
yr ysgolhaig a fu’n Athro Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn
Aberystwyth E H Carr. Y mae Cydberthynas y Gwledydd
Wedi’r Cyfamodau Heddwch a gyhoeddwyd yn 1938 o dan enw E
H Carr yn werthfawr o hyd. Felly ei gyfieithiad o waith
Elizabeth Stanley Y Byd Byw, ac am gyfieithu
Adroddiad Gittins ar Addysg Gynradd yng Nghymru a
gyhoeddwyd yn 1967.[30]
Yr oedd ef a Gittins yn Athrawon Coleg y Brifysgol Abertawe yn
niwedd y pumdegau.[31]
Cefnogodd Stephen J
Williams, fel ei deulu yr Eisteddfod Genedlaethol o’i ddyddiau
cynnar. Galwyd arno yn feirniad ar draethawd yn Eisteddfod
Castell Nedd yn 1934 a chyflawnodd y dasg honno ar ôl hynny.
Bu’n Olygydd Cyfansoddiau a Beirniadaethau Eisteddfod
Genedlaethol Llanelli yn 1962, a hefyd Cyfrol Cyfansoddiadau
Eisteddfod Aberafan yn 1966, a Chyfansoddiadau Eisteddfod
Genedlaethol Frenhinol Cymru, Bro Myrddin yn 1974.[32]
Ond y dasg a alwai am ddoniau a medr arbennig oedd cyfieithu
clasuron y byd cerddorol i’r Gymraeg ar gyfer Cyngherddau’r
Brifwyl. Bu Syr T H Parry-Williams yn cyflawni’r dasg ar ôl
i’r Rheol Gymraeg ddod yn rhan o’r Eisteddfod Genedlaethol,
symudiad oedd wrth fodd ei galon. Sonia Dr Brynley Roberts am
y cymorth a gafodd yn y dasg hon gan ei briod a fu’n unawdydd
o fri; aelod o gorau amrywiol, ac yn wir sylfaenydd Côr
Philharmonic Abertawe.[33]
Cyhoeddodd Llys yr Eisteddfod Genedlaethol y gweithiau hyn
dros y blynyddoedd a bellach y maent ar gael i’w defnyddio yn
ôl y galw. Un o’r cyfieithiadau cynharaf ar gyfer yr
Eisteddfod oedd Cân Pwca sef cyfieithiad o eiriau'r dramodydd
William Shakespeare ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Aberafan
yn 1966.[34]
Bu’n cydweithio gydag arbenigwyr o’r byd cerddorol i baratoi’r
cyfan ar gyfer y cantorion ac yna yn ddiweddarach i’w
cyhoeddi. Bu John Hughes, W Matthews Williams, T Gwynn Jones
a Rowland Wyn Jones yn Olygyddion Cerdd ynglŷn â’r
cyfieithiadau. Yn y rhestr a gyflwynaf gwelir ei fod wedi
rhoddi gerbron mynychwyr y Brifwyl fersiynau Cymraeg o waith y
prif cerddorion Ewropeaidd fel Mozart, Fauré, Handel, J S
Bach, Vivaldi, ac yn ei gyfnod ef, gwaith Benjamin Britten.
Mwynhawyd Aida Verdi, Sant Paul Mendelssohn, Hiawatha
Coleridge-Taylor, Dioddefaint Sant Matthew J S Bac, Jiwdas
Maccabaeus Handel a Cân y blodeuyn Carmen. Ar ôl ei
farwolaeth cyhoeddodd Llys yr Eisteddfod Genedlaethol nifer
fawr o’i gyfieithiadau, yn arbennig ar gyfer Eisteddfod
Castell Nedd a’r Cyffiniau yn 1994.[35]
Manteisiodd Urdd Gobaith Cymru ar ei fedr a’i gamp fel
cyfieithydd.[36]
Bu Dr Stephen J
Williams am gyfnod yn gadeirydd y Panel Llenyddiaeth ac yn
hynod o ffyddlon fel aelod o Bwyllgor Gwaith Gorsedd y
Beirdd. Dyrchafwyd ef yn Gadeirydd Cyngor yr Eisteddfod
Genedlaethol, y corff sy’n cyflawni gwaith a roddir iddynt gan
y Llys Blynyddol. Fel cymeradwyaeth a gwerthfawrogiad o’i
ymroddiad i’r diwylliant a byd yr Eisteddfod, etholwyd ef yn
1975 yn Gymrawd yr Ŵyl Genedlaethol. Y darlun sy’n aros yn fy
nghof i ohono yw ei weld ar ganol maes mwdlyd yr Eisteddfod yn
Abergwaun, un prynhawn Mercher, a’r ddau fab yn ei gynnal gan
fod y gwynt nerthol bron a chodi yn llythrennol, y gŵr bach o
gorff, o’r ddaear ag yntau wedi trefnu geiriau Cymraeg godidog
i waith Vivaldi ar gyfer y Brifwyl yn Sir Benfro. Bu Dr J S
Williams yn fawr ei gyfraniad hefyd i’r gymuned Gymraeg yn
ninas Abertawe. Efe a sefydlodd y Gymdeithas Gymraeg, Tŷ’r
Cymru ac yno cafodd ei ethol yn Llywydd Anrhydeddus fel
cydnabyddiaeth o’i arweiniad sicr a di-ollwng. Bu ef a’i
briod yn gefnogwyr mawr i fyd y ddrama Gymraeg a lluniodd ef
ei hun gomedi hwyliog o dan y teitl Y Dyn Hysbys.[37]
Llwyfannwyd y
comedi gan Gwmni Theatr Genedlaethol Cymru yn 1934 a’i
chyhoeddi yn 1935. Lluniwyd Y Dyn Hysbys ar batrwm y
gŵr ecsentrig o Gwrtycadno, John Harries, a ddenai bobl o bell
ac agos i ddod ato am iachâd. Twyllwr ydoedd yn y bôn, swynwr
a meddyg gwlad, fel ei fab Henry Harries. Gallent swyno'r
werin dlawd ofergoelus a bu’r tad a’r mab yn rhan bwysig o
fywyd Sir Gaerfyrddin yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar
bymtheg. Cymharodd E G Bowen hwy i ‘medicine men’ ymysg
llwythau anllythrennog yn Affrica a de-ddwyrain Asia.[38]
Bu Dr Stephen J
Williams yn gysylltiedig â Choleg Prifysgol Cymru Abertawe ar
hyd ei oes. Dilynodd yr Athro Henry Lewis yn 1954 fel Athro'r
Adran Gymraeg ac arhosodd yn y swydd hyd nes iddo ymddeol yn
65 mlwydd oed yn 1961. Mwynhaodd dros ddeg mlynedd ar hugain
o ymddeoliad hapus, ac anrhydeddwyd ef gyda chyfrol hardd yn
1981 o dan y teitl Beirdd ac Eisteddfodwyr. Pwyllgor
Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a’r Cylch 1982 oedd yn
gyfrol am gyhoeddi’r gyfrol fel ‘amlygiad o barch a diolch i
Stephen J Williams. Lluniwyd cywydd gan y bardd James
Nicholas iddo a gwir y dywedodd amdano:
Farchog y
gorseddigion,
Hynawsedd wyt yn y swydd hon;
Wyt olau ar ben talar
Ti yw’r haul uwch y tir âr;
Gwres y llain a gras y lle
Wyt ti yn Abertawe.[39]
Gwahoddwyd Dr Brynley F
Roberts, Athro Cymraeg Coleg y Brifysgol Abertawe'r adeg
honno, yn Olygydd. Lluniodd ysgrif gynhwysfawr o
werthfawrogiad. Prif faes y Dr Roberts yw rhyddiaith Cymraeg
yr Oesoedd Canol ac ni wyddai neb yn well am orchestion y Dr S
J Williams nag ef. Casglodd i’r gyfrol ryddiaith o eiddo Dr S
J Williams, ei astudiaethau o Ifor Ceri (1770-1829) fel noddwr
cerdd.[40] Yna ceir astudiaeth
werthfawr o Carnhuanawc (1787-1848) fel eisteddfodwr ac
ysgolhaig.[41] Daw’r drydedd erthygl
o ragymadrodd Dr Williams i’w gyfrol ar yr emynydd o
Eifionydd, Roberts ap Gwilym Ddu.[42] Erthygl ar y ddau
ffrind o Ddwyfor yw’r ymdriniaeth nesaf, sef Robert ap Gwilym
Ddu a Dewi Wyn o Eifion.[43] O’r un gyfrol y daw
ei ymdriniaeth ar Thomas Stephens a Gweirydd ap Rhys.[44] Bardd
mawr yr ugeinfed ganrif sy’n cloi'r gyfrol hardd ar y testun y
Gynghanedd a
Chanu Rhydd T Gwynn Jones.[45]
Cyhoeddwyd 300 copi o’r argraffiad arbennig yn Hydref 1981 a
bellach cyfrifir y gyfrol Beirdd ac Eisteddfodwyr fel
cyfrol o deyrnged i ysgolhaig gostyngedig o galon a
chyfrannydd nodedig i lenyddiaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif.
Cafodd fyw i oedran teg a bu farw ar 2 Awst 1992, o fewn
pedair blynedd i fod yn gan mlwydd oed, a tair blynedd ar ôl
colli ei briod ar ôl 64 blynedd o fywyd priodasol. Bu’r arwyl
yn Amlosgfa Treforys ar 8 Awst 1992.[46]
[1]
Aled Rhys Wiliam (Gol), Arolwg 1966, Abercynon,
1966. Ceir ysgrif ganddo ar Teledu ac Addysg yn y gyfrol.
[2]
Am Urien Wiliam, gw Meic Stephens (Gol), Cydymaith i
Lenyddiaeth Cymru (Caerdydd, 1997), tt 766-67.
Enillodd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol 1972 a
1973.
[3]
Am W J Griffiths, gw, T Robin Chapman, W J Gruffydd,
Dawn Dweud (Caerdydd, 1993).
[4]
Stephen J Williams, Y Llenor: Cyfrol Goffa William
John Gruffydd (Caerdydd, 1955), tt 22-25.
[5]
Meddylai Stephen J Williams y byd o W J Gruffydd. Pan
fethodd ei hen Athro gael ei benodi yn Brifathro Coleg y
Brifysgol Caerdydd ym mis Ebrill 1929, anfonodd Stephen J
Williams lythyr ato ar 2 Mai yn ‘rhegi dallineb y Coleg
ond yn llawenhau fod ysgolheictod a llenyddiaeth ar eu
hennill’. Gw T Robin Chapman, ibid, t 116.
[6]
Stephen J Williams (Gol): Ffordd y Brawd Odrig o
lawgysgrif Llanstephan 2 (Caerdydd, 1929)
[7] Brynley F
Roberts (Gol), Beirdd a Eisteddfodwyr (Abertawe,
1981), t 10.
[8]
Oherwydd helynt Pen-y-berth a’i garcharu penderfynodd
Cyngor Coleg Prifysgol Cymru Abertawe ddod â chytundeb
Saunders Lewis fel darlithydd i ben ar 15 Chwefror 1937.
Y bleidlais oedd 12 o blaid a 11 yn erbyn. Yn ôl T Robin
Champan dewis ddyn Athro Henry Lewis i olynu Saunders
Lewiss oedd Melville Richards, myfyriwr ymchwil. Dywed
adroddiad di-enw yn Saesneg o’r Coleg a dderbyniodd
Griffith John Williams, Caerdydd fod pennaeth yr Adran
wedi dweud ym mhwyllgor penodi olynydd Saunders Lewis: ‘Henry
Lewis said that Melville Richards was a better man than
Stephen Williams and Saunders Lewis for that matter too.
Gw, T Robin Chapman, Un Bywyd o Blith Nifer: Cofiant
Saunders Lewis (Llandysul, 2006), t 203 yn seiliedig
ar LlGC, papurau G J Williams.
[9]
Dr Morgan Watkin (1878-1970) oedd un o’r rhai cyntaf i
ddeall yn ôl Edouard Bachellery, Versailles ‘fod y
gyfathrach agos yn yr Oesoedd Canol rhwng yr arglwyddi
Normanaidd a’u llysoedd Ffrangeg eu hiaith ar y Gororau ac
yn neheuder Cymru a’r arglwyddi o Gymry a’u llysoedd
Cymraeg eu hiaith wedi cael effeithiau pwysig yn y ddwy
ffordd: nid yn unig cafodd y chwedlau Celtaidd (ac yn eu
plith y chwedlau Arthuraidd Cymraeg) ddylanwad mawr ar
lenyddiaeth Ffrangeg yr Oesoedd Canol, a thrwy honno ar
holl lenyddiaethau Ewrop, ond ar y llaw arall treiddiodd
diwylliant ac iaith Ffrainc i gylchoedd eang o fonedd a
gwŷr llên Cymru. Felly, yn syth o’r Ffrangeg i’r Gymraeg,
yr ymlwybrodd y rhan fwyaf o’r geiriau Hen Ffrangeg a
fenthyciodd yr iaith lenyddol yn yr Oesoedd Canol, heb
fynd drwy gyfrwng y Saesneg’. Gw Edouard Bachellery,
Morgan Watkin (1878-1970), Y Bywgraffiadur Cymreig
1951-1970 (Llundain, 1997), tt 220-221.
[10]
Trwy ei waith gorchestol pwysleisia Saunders Lewis
gyfraniad diwinyddion a llenorion Ewrop. Cofier am ei
gyfeiriad at Hu Sant, neu Hugo o St Victor, diwinydd ac
athro, a ddeuodd ‘efrydwyr o bob parth o Ewrop i ddilyn ei
ddarlithoedd ym Mharis’ yn y 12ed ganrif. Gw, Saunders
Lewis, Meistri’r Canrifoedd: Ysgrifau ar Hanes
Llenyddiaeth Gymraeg wedi’u dethol a’u golygu am R
Geraint Gruffydd (Caerdydd, 1973), t 35. Dywed y Dr D
Densil Morgan amy Dr Pennar Davies, ‘dinesydd byd oedd
Pennar a’i orwelion yr un mor eang ag erioed’ yn y
chwe-degau. Gw, D Densil Morgan, Pennar Davies, Dawn
Dweud (Caerdydd, 2003), t 125.
[11]
D Ben Rees, Lledu Gorwelion: Hanes John Calfin a’r
Diwygiad Protestannaidd (Chwilog, 2009).
[12]
Stephen J Williams, Traethawd Gwallter o Henlai ar
Hwsmonaeth, Bulletin of the Board of Celtic Studies
vi, tt 41-55.
[13]
Stephen Joseph Willaims a J Enoch Powel (gol).
Cyfreithiau Hywel Dda yn ôl Llyfr Blegywryd (Dull Dyfed):
argraffiad beirniadol ac eglurhaol (Caerydd, 1942).
[14]
Aneurin Owen (ed): Ancient laws and institutes of
Wales, 2 gyfrol (Llundain, 1841).
[15]
Meic Stephens (gol) Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru
(Caerdydd, 1997), t 129.
[16]
ibid.
[17]
Aled Rhys Wiliam (gol), Llyfr Iorwerth
(Caerdydd, ).
[18]
Stephen J Williams, Y Gymraeg a’i Dyfodol, Transactions
of the Honourable Society of Cymmrodorion, 1943.
[19]
Brynley F Roberts, Beirdd ac Eisteddfodwyr: Erthyglau
gan Stephen J Williams, wedi’u dethol a’u golygu gan
Brynley F Roberts (Abertawe, 1981), t 12.
[20]
Stephen J Williams, Crefydd a’r Gymraeg (Abertawe,
1969).
[21]
Trebor Lloyd Evans (gol), Gwerth Cristnogol yr Iaith
Gymraeg, (Abertawe, 1968).
[22]
Bu Stephen J Williams yn gefnogol iawn i ymdrechion Trefor
Richard Morgan (1914-70) pan sefydlodd Gronfa Glyndŵr yr
Ysgolion Cymraeg yn 1963. Traddododd Darlith Goffa i’r
cenedlaetholwr. Gw Stephen J Williams, Darlith Goffa
Trefor Morgan (Caerdydd, 1984).
[23]
Stephen J Williams, Beginner’s Welsh (Tonypandy,
1934).
[24]
ibid. Yr oedd yn gyfrol hylaw, 70 tudalen, a ellid ei
osod ym mhoced y gôt, a bu o leiaf 30 o argraffiadau.
[25]
Stephen J Williams, Elfennau Gramadeg Cymraeg
(Caerdydd, 1959); Stephen J Williams, A Welsh Grammar
(Caerdydd, 1980).
[26]
H Meurig Evans a W O Thomas, Y Geiriadur Mawr: The
Complete Welsh-English, English-Welsh Dictionary
(Golygydd Ymgynghorol: Yr Athro Stephen J Williams)
(Llandysul a Llandybie, 1958).
[27] Cyhoeddwyd
yn Chwefror 1994 y pedwaredd argraffiad ar bymtheg.
[28]
Mewn erthygl gynhwysfawr ar y testun Cymraeg, gw
Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig (Caerdydd, 2008)
anwybyddwyd Cymraeg Byw, tudalennau 227-233. Gresyn hynny
pan gofiwn am waith ysgolheigion o safon y Dr S J
Williams.
[29] Brynley
Roberts, ibid, t 13.
[30]
Am Gittins, gweler E D Jones, Charles Edward Gittins
(1908-70) yn Bywgraffiadur Cymreig 1951-1970
(Llundain, 1997, t 63. Da y dywedodd y cofnodydd am Yr
Athro Charles Gittins ‘Mynnai Gittins fod y diwylliant
Cymraeg yn etifeddiaeth i holl blant Cymru a bod galw am
addysg ddwyieithog lwyr i sicrhau fod yr etifeddiaeth yn
eiddo iddynt oll.’ Teitl y fersiwn Gymraeg a gyfieithiwyd
gan y Dr Stephen J Williams oedd Addysg Gynradd Cymru
(HMSO 1967). Bu Charles Gittins yn Athro Addysg yng
Ngholeg y Brifysgol Abertawe o 1956 i 1970.
[31]
Teitl y traethawd oedd ‘Cyfraniad Castell-Nedd a’r Cylch i
fudiad Heddwch’. Dyfarnodd Stephen J Williams y wobr i T
Rhys Jones, yr Eglwys Newydd, Caerdydd. LlGC Papurau
Eisteddfod Genedlaethol Cymru Castell-Nedd 1934.
[32]
(Gol) Stephen J Williams, Cyfansoddiadau a
Beirniadaethau (Llandysul, 1962); ibid, (Llandysul,
1966); (Gol) Stephen J Williams, Cyfansoddiadau
Genedlaethol Frenhinol Cymru, Bro Myrddin 1974
(Llandybie, 1974).
[33]
Brynley Roberts, ibid, t 14.
[34]
John Hughes (Gol), Cân Pwca, geiriau Saesneg gan W
Shakespeare, geiriau Cymraeg an Stephen J Williams
(Aberafan, 1966).
[35]
Dyma ddetholiad sydd yn rhoddi syniad o’r dasg enfawr a
gyflawnodd yn bennaf yng nghyfnod ei ymddeoliad
i)
Cân
y Blodeuyn
= Bizet; cyfieithiad Stephen J Williams; o dan
olygyddiaeth Rowland Wyn Jones
(Aberteifi, 1976)
ii)
Requiem Verdi,
geiriau Cymraeg Stephen J Williams, golygydd cerdd;
Rowland Wyn Jones (Abertawe, 1982).
Y mae’r gyfrol hon yn
218 tudalen.
iii)
Cytgan mawreddog Aida/Verdi;
geiriau Cymraeg: Stephen J Williams; golygyddion cerdd:
Rowland Wyn
Jones a T Gwynn Jones (Llanbedr Pont Steffan,
1984).
iv)
Michael Head, Alfred Noyes,
Stephen J Williams, A Slumber Song of the Madonna
(Aberystwyth, 1986).
v)
Benjamin Britten a Stephen J
Williams, There is no Rose (Aberystwyth, 1986).
vi)
Un
Wyt â’r Ysbryd Glân: Vivaldi,
geiriau Cymraeg; Stephen J Williams, golygydd cerdd: T
Gwynn Jones
(Abergwaun, 1986).
vii)
Requiem mass, Mozart;
addasiad Rowland Wyn Jones o eiriau Cymraeg Stephen J
Williams (Porthmadog,
1987)
viii)
Carmina Burana/Carl
Orff y geiriau Cymraeg gan Stephen J Williams (Porthmadog,
1987).
ix)
Dalla sua pace = Mozart,
cyfieithiad gan Stephen. J Williams, dan olygyddiaeth W
Matthews Williams
(Rhymni, 1990).
x)
Sanctus = Andre Caplet;
geiriau Cymraeg gan Stephen J Williams; golygwyd gan
Rowland Wyn Jones
(Rhymni, 1990).
xi)
Sadoc Ŵr Duw
gan Handel; geiriau Cymraeg Stephen J Williams
(Castell-nedd, 1994).
xii)
Cum
Sanco spiritu = Vivaldi,
geiriau Cymraeg gan Stephen J Williams, golygwyd gan T
Gwynn Jones (Castell-
nedd, 1994).
xiii) O’m
mewn cwyd llais y Duwdod cu;
Judas Maccabaeus (Handel), y geiriau Cymraeg gan Stephen J
Williams
(Castell-nedd, 1994).
xiv)
Cân
y Blodeuyn: Carmen
/ geiriau Cymraeg Stephen J Williams,
golygydd cerdd: Rowland Wyn Jones (Castell-
nedd, 1994).
xv)
Yr
Ymdeithgan fawr Verdi,
y geiriau Cymraeg gan Stephen J Williams (Castell-nedd,
1994).
xvi)
Yr
eneth wrthodedig =
Hugo Wolf; geiriau Cymraeg gan Stephen J
Williams, golygydd cerdd T Gwynn Jones
(Castell-nedd,
1994).
[36]
Benjamin Britten, Ni fu erioed; geiriau Cymraeg
Stephen J Williams (Cross Keys, 1997). Canwyd y gwaith
hwn yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru,
Islwyn, 1997.
[37]
Stephen J Williams, Y Dyn Hysbys; Comedi mewn tair act
(Aberystwyth, 1935).
[38]
E G Bowen, Henry Harries; Y Bywgraffiadur Cymreig hyd
1940 (Llundain, 1953), tt 317-18.
[39]
Brinley F Roberts, ibid, t 4.
[40]
Cyhoeddwyd yn wreiddiol yn Stephen J Williams, Ifor
Ceri, noddwr cerdd (1770-1829), Abertawe, 1954.
[41]
Stephen J Williams, Caenhunawd (1787-1848), Trafodion
Cymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion, 1955, tt 18-30.
[42]
Stephen J Williams (Gol), Robert ap Gwilym Ddu,
detholion o’i weithiau(Caerdydd, 1948). Daeth
ail-argraffiad allan yn 1960.
[43]
Ymddangosodd yr ymdriniaeth yn wreiddiol yn Dyfnallt
Morgan, gol; Gwŷr llên bedwaredd ganrif ar bymtheg a’u
cefndir, 1968.
[44]
ibid, tt 224-33.
[45]
Y Llenor, xxviii (1949), Rhifyn Coffa T Gwynn
Jones, tt 134-40.
[46]
D Ben Rees, Obituary: Professor Stephen J Williams,
The Independent, 8 August 1992, Brynley F Roberts,
Stephen Joseph Williams, Bywgraffiadur-ar-Lein,
Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Click here to return to the
list
|